Hanes Colocwia Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol
Cynhaliwyd Colocwiwm Cyntaf Cymru’r Oesoedd Canol ym Mangor yn Hydref 2002, ac fe’i dilynwyd gan gynadleddau tebyg bob yn ail flwyddyn ers hynny. Dyma’r unig gynhadledd sydd wedi’i neilltuo’n arbennig i’r maes, a’r amcan yw cynnig llwyfan i waith ymchwil ar bob agwedd ar hanes Cymru’r oesoedd canol, gan gynnwys llenyddiaeth a diwylliant materol. Traddodir papurau gan fyfyrwyr ymchwil yn ogystal ag ysgolheigion profiadol ac mae’r gynhadledd yn cynnig cyfle i bawb sy’n ymddiddori yng Nghymru’r oesoedd canol gwrdd â’i gilydd. Hyd yn hyn cafwyd siaradwyr o’r Alban, Awstria, Cymru, Gwlad Pwyl, Iwerddon, Lloegr, Twrci a’r Unol Daleithiau.
Ers 2010 cyplyswyd y Colocwiwm â Darlith J. E. Lloyd ar hanes Cymru’r oesoedd canol, un o Ddarlithiau Cyhoeddus Prifysgol Bangor, sydd wedi’i sefydlu er anrhydedd awdur y gwaith arloesol A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (1911) a oedd hefyd yn Athro Hanes yng Ngholeg Bangor o 1899 hyd 1930.
Trefnydd y Colocwiwm cyntaf oedd Huw Pryce, ac mae’r cynadleddau dilynol wedi’u trefnu ganddo ef a nifer o gydweithwyr eraill ym Mangor, sef Sue Johns, Peredur Lynch, Kate Olson, Euryn Rhys Roberts ac Owain Wyn Jones.