Llety a manylion teithio

Fe gerddwch mewn 10 munud o’r orsaf drenau i Brif Adeilad y Celfyddydau, neu fel arall mae’n bosibl llogi tacsi o du allan i’r orsaf i’ch cludo i’r safle am oddeutu £3.50. Os ydych yn teithio yn y car, cod post y safle yw LL57 2DG. Fe gewch barcio am ddim a bydd trwydded yn eich disgwyl wrth gofrestru.

Mae manylion teithio pellach, mapiau i’w llwytho ayyb, ar gael ar y dudalen Gwybodaeth i Ymwelwyr ar brif wefan Prifysgol Bangor.