Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol

Cynhelir Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor dros benwythnos y 20–21 o Hydref, 2018. Prif nod y Colocwiwm, a gynhelir bob dwy flynedd, yw rhoi fforwm i ysgolheigion ac eraill sy’n ymddiddori yn hanes Cymru a’i gysylltiadau ehangach yn yr Oesau Canol.

Eleni traddodir y darlithoedd cyweirnod gan yr Athro Tony Carr, Dr Charles Insley a’r Athro Ann Parry Owen.

Ar nos Wener y 19eg o Hydref traddodir y Bumed Ddarlith Syr John Edward Lloyd gan yr Athro Nancy Edwards.